⌘K
Description

Penwythnos o gystadlu a chymdeithasu i Undebau Cymraeg Cymru gyfan. Gwybodaeth am Docynnau’r Eisteddfod Ryng-gol i Ymwelwyr Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn hynod falch o groesawu’r digwyddiad pwysig hwn yn ôl i’r brifddinas am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd, gan ddathlu’r iaith Gymraeg, y gymuned a’r diwylliant ac arddangos talent, angerdd a balchder myfyrwyr o bob cwr o Gymru.

Dylai ymwelwyr archebu tocyn am ddim yma. Fel ymwelydd, mae eich tocyn am ddim yn cynnwys: • Mynediad i Ganolfan Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni ddydd Gwener 27ain Chwefror • Mynediad i Neuadd Fawr Undeb Myfyrwyr Caerdydd ddydd Sadwrn 28ain Chwefror Dim ond ymwelwyr sy’n cyrraedd ar y bws gwennol swyddogol ac sydd â thocyn dilys fydd yn cael mynediad i gyfleusterau chwaraeon Llanrhymni. Ni chaniateir dod ag alcohol i mewn i unrhyw gyfleusterau chwaraeon. Bydd bar ar y safle yn Llanrhymni yn gwerthu detholiad o gwrw a seidr.

Gemau Chwaraeon – Amseroedd a Lleoliadau Bydd pob gêm rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd yn cael eu cynnal ddydd Gwener 27ain Mawrth. Am fanylion llawn ynghylch pryd a ble mae pob gêm chwaraeon yn digwydd, ewch i amserlen y digwyddiad ar ein tudalen Instagram: @caerdydd2026 Yr Eisteddfod – Amseroedd a Lleoliadau Cynhelir yr Eisteddfod yn y Neuadd Fawr ddydd Sadwrn 28ain o Fawrth. Bydd mynediad i'r digwyddiad ar gael yma: https://maps.app.goo.gl/JVp8kcZsRA3kNdxK8

Drysau'n agor / cyrraedd o: 09:45 Croeso / cystadlaethau’n dechrau : 10:00 Diwedd yr Eisteddfod: 18:00 Am ragor o wybodaeth, ewch i amserlen y digwyddiad ar ein tudalen Instagram: @caerdydd2026 Ar ôl cyrraedd Undeb y Myfyrwyr ddydd Sadwrn, bydd tocynnau pob mynychwr yn cael eu sganio a byddant yn derbyn band arddwrn yn y Swyddfa Docynnau ar y Llawr Gwaelod (ochr Ffordd Senghennydd o adeilad Undeb y Myfyrwyr).

Hygyrchedd Ddydd Sadwrn, bydd mynediad i'r Neuadd Fawr drwy'r Swyddfa Docynnau ar Lawr Gwaelod Undeb y Myfyrwyr. Ewch i mewn i'r adeilad o Ffordd Senghennydd. Mwy o wybodaeth am hygyrchedd a mynediad i’r adeilad yma.

Bwyd a Diod Yn Llanrhymni (dydd Gwener) Bydd bar awyr agored ar y safle yn gweini detholiad cyfyngedig o ddiodydd alcoholig a meddal, yn ogystal â stondin bwyd poeth. Byddwch yn ymwybodol bod y dewisiadau bwyd yng nghyfleusterau chwaraeon Llanrhymni yn gyfyngedig, ac nid yw'n bosibl cerdded i fannau gwerthu bwyd eraill oddi yno.  Ni chaniateir i fynychwyr ddod ag alcohol na'i yfed ar fysiau gwennol na dod ag alcohol i mewn i unrhyw gyfleusterau chwaraeon. Bydd bar ar y safle yn Llanrhymni yn gwerthu detholiad o ddiodydd meddal, cwrw a seidr. Yn Undeb y Myfyrwyr (dydd Sadwrn) Y Taf – Ar agor o 11yb ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Mae'r Taf wedi'i leoli ar Lefel 2 ac mae'n gweini ystod eang o fwyd tafarn a diodydd. Starbucks – Ar agor o 10yb-3yp ddydd Sadwrn. Wedi'i leoli yn Y Cwtch ar Lefel 2, yn gweini diodydd poeth ac oer, yn ogystal â chacennau a byrbrydau. Tŷ Tatws – Ar agor o 12yp-2yp ddydd Sadwrn. Hefyd wedi'i leoli yn Y Cwtch, yn gweini paninis a thatws pob Ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr, yn yr Arcêd Myfyrwyr, fe welwch hefyd y Co-op, Bagel Place, Kiwi Bowls, Falafel, a McSimms. Bydd y Bar yn y Neuadd Fawr ar agor drwy gydol yr eisteddfod ddydd Sadwrn.

Helpwch ni i wneud y digwyddiad yn llwyddiant Helpwch ni i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant. Bydd torri unrhyw un o'r telerau ac amodau hyn neu ymddygiad y mae'r rheolwyr ar ddyletswydd yn ei ystyried yn annerbyniol yn arwain at gael eich gwahardd o'r digwyddiad a gwaharddiad posibl o'r safle. Mewn achosion difrifol, gellir hysbysu'r Heddlu neu'r Prifysgolion perthnasol. Mae ymddygiad annerbyniol yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i; • Ymddygiad sy'n debygol o achosi bygythiad • Ymddygiad camdriniol neu wahaniaethol • Ymddygiad sy'n achosi difrod, niwsans, neu anaf i’ch hun neu eraill • Ymddygiad sy'n peryglu eraill

Atgoffir pob myfyriwr ac ymwelwr sy'n mynychu'r digwyddiad hwn ei bod yn ofynnol iddynt ymddwyn o fewn y disgwyliadau a roddir ar aelodau Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd.

Rwy'n deall, trwy gofrestru i fynychu'r digwyddiad hwn, fy mod yn derbyn y Telerau ac Amodau. Gellir dod o hyd i'r telerau llawn yn www.cardiffstudents.com/terms/

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â [email protected].

Diolch am eich cydweithrediad. Allwn ni ddim aros i ddathlu Eisteddfod Ryng-gol 2026 gyda chi!